Have you discovered the Winding House Museum?

27/06/2017

You can visit Wales’ most Family Friendly Museum for FREE!  Explore this award winning museum to find amazing objects, uncover fascinating stories, and take part in lots of hands-on activities such as creating prehistoric clay pots or ‘enjoying’ the smells of a WW2 air raid shelter!

 

It is the Museum of Valleys Life – you will discover the Valleys of the past and explore how we have lived and worked from the Romans to the Miners and everyone in between.

 

In the exhibition, you can see objects such as the Roman Ring found on a hill near the museum (dropped from the finger of a Soldier as he marched?), flint arrow heads from our hunting ancestors, a genuine air raid shelter (dug from a local garden!), and Rhymney beer memorabilia!   There is plenty to keep everyone entertained including historical dressing up and a Medieval stocks to lock up your loved ones!  You can also have a go at the trail which gets you drawing, rubbing, stamping and winning a sticker.

 

The temporary exhibition is currently all about Childhood.  ‘Back in my day’ is a room full of nostalgia from school days and ink pens to baby shawls and toys.  More hands-on here too – imagine yourself a Victorian school teacher (complete with cane) or have a go at carrying a baby ‘Welsh style’.

 

A ‘must-do during your visit is to walk through the large black door into the original Winding House building which is all that remains of Elliot Colliery that once stood on this site.  It still boasts an massive Victorian steam engine which is awe-inspiring anytime you visit – but is also ‘run’ the last Saturday of every month and you get to see it in action!

 

Visit us in the Summer and take part in a wide variety of events from a craft club with a historical twist such as excavating dinosaurs or making Egyptian jewellery to a drop-in discovery of historical gems from poo to pens!  Tear yourself away from the TV historical documentaries to be treated to a live talk about the Romans in July and see the impressive Victorian engine running on the last Saturday of every month too!

If you’ve never visited us before, you can find us very easily in New Tredegar which is about 40 minutes from Cardiff on the A469.  We have free onsite parking, easy access and a tempting coffee and gift shop. Check us out on Facebook (search for Winding House) to keep up to date with the latest events and happenings.

 

Ydych chi wedi darganfod Amgueddfa’r Tŷ Weindio?

 Gallwch ymweld ag Amgueddfa fwyaf Teulu Cyfeillgar Cymru AM DDIM!  Archwiliwch yr amgueddfa wobrwyol hon i ddod o hyd i wrthrychau rhyfeddol, i ddatgelu straeon diddorol ac i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ymarferol fel llunio potiau clai cynhanesyddol neu ‘fwynhau’ arogleuon lloches cyrch awyr o’r Ail Ryfel Byd.

 

Dyma Amgueddfa Bywyd y Cymoedd – byddwch yn darganfod Cymoedd y gorffennol ac yn archwilio sut rydym wedi byw a gweithio o’r Rhufeiniaid i’r Glowyr a phawb yn y canol.

 

Yn yr arddangosfa, gallwch weld gwrthrychau fel y Fodrwy Rufeinig a ddarganfuwyd ar fryn ger yr amgueddfa (a gafodd ei ollwng o fys milwr wrth iddo fartsio?), lloches cyrch awyr go iawn (cloddiwyd o ardd leol!) ac eitemau cwrw Rhymni!   Mae digon i ddiddanu pawb gan gynnwys gwisgoedd hanesyddol i’w gwisgo a stociau Canol Oesol i gloi eich anwyliaid ynddynt!  Gallwch hefyd roi cynnig ar y llwybr sy’n gwneud i chi wneud lluniau, rwbio, stampio ac ennill sticer.

 

Mae’r arddangosfa dros dro ar hyn o bryd am Blentyndod. Mae ‘Nôl yn fy nyddiau cynnar’ yn ystafell yn llawn o hiraeth o ddyddiau ysgol a phennau  ysgrifennu inc i siolau babanod a theganau.  Mae mwy o weithgareddau ymarferol yma hefyd – dychmygwch eich hun fel athro ysgol yn oes Fictoria (ynghyd â chansen) neu rhowch gynnig ar gario baban yn ‘y dull Cymreig’.

 

Yn ystod eich ymweliad mae’n rhaid i chi gerdded drwy’r drws fawr du i mewn i adeilad gwreiddiol y Tŷ Weindio, y cwbl sydd ar ôl o Lofa Elliot a oedd unwaith ar y safle.  Mae’n dal i ymfalchïo mewn injan stêm Fictoraidd enfawr sydd yn syfrdanol unrhyw adeg rydych yn ymweld – ond mae’n ‘rhedeg’ ddydd Sadwrn olaf bob mis hefyd a byddwch yn cael ei weld ar waith!

 

Ymwelwch â ni yn yr Haf a chymerwch ran mewn amrywiaeth eang o weithgareddau o glwb crefft gyda thro hanesyddol fel cloddio dinosoriaid neu wneud tlysau Eifftaidd i ddarganfyddiadau ‘galw-i-mewn’ o dlysau hanesyddol o faw i binnau ysgrifennu!  Trowch y rhaglenni dogfennol hanesyddol ar y teledu i ffwrdd i fwynhau sgwrs fyw am y Rhufeiniaid ym mis Gorffennaf a gweld yr injan stêm Fictoraidd enfawr yn rhedeg ar ddydd Sadwrn olaf pob mis hefyd!

 

Os nad ydych erioed wedi ymweld â ni o’r blaen, gallwch ddod o hyd i ni yn hawdd iawn yn Nhredegar Newydd sydd tua 40 munud o Gaerdydd ar yr A469.  Mae gennym barcio am ddim ar y safle, mynediad hawdd a siop goffi a rhoddion i’ch temtio. Edrychwch amdanom ar Facebook (chwiliwch am Tŷ Weindio) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau.