THE SEARCH FOR 12 NEW HORIZONS ARTISTS IS ON!

04/04/2019

BBC Cymru Wales and Arts Council of Wales are today announcing that the search for Horizons artists to join its 2019 project is now underway.

Celebrating its 5th year this year, Horizons has given a platform to over 48 emerging artists from Wales giving them opportunities to reach new audiences in Wales, the UK and beyond. And now they’re looking for 12 new artists.

The application process is now open. The 12 successful acts will be supported in various ways over the next 12 months – with opportunities to appear at festivals and events, on the radio including BBC Wales’ national services – BBC Radio Cymru and BBC Radio Wales and on social media.

The Horizons project aims to showcase promising talent in Wales. Highlights over the past five years include recording at the world-renowned Rockfield Studios in Monmouthshire, Maida Vale Studios in London, and an exclusive collaboration with partners like the Football Association of Wales who are currently showcasing Horizons’ artist’s music as the soundtrack of Welsh football.

As the Horizons project celebrates its fifth year, there are plans to work with new partners as well as bring a host of new and former Horizons artists together to create some extra special moments across 2019.

Bethan Elfyn, Project Manager of Horizons at BBC Wales, said:

“We’re looking forward to welcoming 12 new musical talents to the project. In this fifth year we’ll be on a mission to celebrate the role the project plays; we’re proud of everything from the grassroots work we do to the larger scale collaborations, representing a wide range of diverse musical styles, talents, locations and backgrounds. Horizons is a crucial injection into an already energised, and prolific Welsh music scene.”

“By supporting a group of artists, not only do we help nurture new talent but create a window on Welsh music at home as well as further afield. Our vision continues to be to bring a new, fresh sound to represent a modern Wales – and some of the stories from the Welsh music world are having a huge cultural impact at a crucial time.”

Lisa Matthews, Portfolio Manager at Arts Council of Wales, says:

“We’re proud to support Horizons for a further year and see another 12 artists have a creative and potentially career changing year. There’s been some incredible opportunities created so far and we’re looking forward with excitement to enabling more developmental music experiences.”

Applications are open from April 4 to Midnight, May 1, and announcements will follow in June. Acts who want to be considered fill in a form online via bbc.co.uk/horizons. Horizons acts will be selected by a panel of experts from within the partnership and the wider music sector.

Please follow Twitter and Facebook – @horizonscymru – for all the information.

 

Mae BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru heddiw’n cyhoeddi bod y chwilio am artistiaid Gorwelion i ymuno â phrosiect 2019 bellach wedi dechrau.

Yn dathlu ei 5ed flwyddyn eleni, mae Gorwelion wedi rhoi llwyfan i dros 48 o artistiaid newydd o Gymru gan roi cyfleoedd iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Nawr maent yn chwilio am 12 artist newydd.

Mae’r broses ymgeisio nawr yn agored. Bydd y 12 ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth mewn gwahanol ffyrdd dros y 12 mis nesaf – gyda chyfleoedd i ymddangos mewn gwyliau a digwyddiadau, ar y radio gan gynnwys gwasanaethau cenedlaethol BBC Cymru Wales – BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Nod prosiect Gorwelion yw arddangos doniau addawol yng Nghymru. Mae uchafbwyntiau’r pum mlynedd diwethaf yn cynnwys recordio yn Stiwdios Rockfield byd enwog yn Sir Fynwy, Maida Vale Studios yn Llundain a chydweithrediad unigryw gyda phartneriaid fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd ar hyn o bryd yn arddangos cerddoriaeth un o artistiaid Gorwelion fel trac sain pêl-droed Cymru.

Wrth i brosiect Gorwelion ddathlu ei bumed pen-blwydd, mae cynlluniau i weithio gyda phartneriaid newydd yn ogystal â dod â llu o artistiaid newydd a chyn-artistiaid Gorwelion at ei gilydd i greu eiliadau hynod arbennig ar draws 2019.

Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion yn BBC Cymru Wales:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu 12 dawn gerddorol newydd i’r prosiect. Yn y bumed flwyddyn hon byddwn yn mynd ati i ddathlu’r rôl a chwaraeir gan y prosiect; rydym yn falch o bopeth, o’r gwaith ar lawr gwlad i’r gwaith a wnawn ar y cydweithrediadau mwy, gan gynrychioli ystod eang o arddulliau, doniau, lleoliadau a chefndiroedd cerddorol amrywiol. Mae Gorwelion yn gyfraniad pwysig i’r sîn gerddoriaeth Gymreig sydd eisoes yn hynod gynhyrchiol a bywiog.”

“Drwy roi cefnogaeth i grŵp o artistiaid, nid yn unig yr ydym yn helpu i feithrin doniau newydd ond hefyd yn creu ffenestr ar gerddoriaeth Gymreig yma yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein gweledigaeth yn parhau i ddod â sain newydd, ffres i gynrychioli Cymru fodern – ac mae rhai o’r straeon o fyd cerddoriaeth Cymru’n cael effaith ddiwylliannol enfawr ar adeg hynod bwysig.”

Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:

“Rydyn ni’n falch o gael cefnogi Gorwelion am flwyddyn arall a chael gweld 12 artist arall yn cael blwyddyn greadigol a allai newid eu gyrfaoedd. Mae cyfleoedd anhygoel wedi cael eu creu hyd yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at alluogi mwy o gyfleoedd datblygu newydd.”

Bydd modd ymgeisio rhwng Ebrill 4 a Hanner Nos, Mai 1, a bydd cyhoeddiadau’n dilyn ym mis Mehefin. Dylai artistiaid sydd eisiau cael eu hystyried lenwi ffurflen ar-lein drwy bbc.co.uk/horizons. Bydd rhestr Gorwelion yn cael ei dewis gan banel o arbenigwyr yn y bartneriaeth ac yn y sector cerddorol ehangach.

Dilynwch ar Twitter a Facebook os gwelwch yn dda – @horizonscymru – i gael yr holl wybodaeth.